Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 20 Mai 2019
Amser:
13.26 -
15.15
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5454
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Vikki Howells AC Darren Millar AC |
Tystion: |
Andrew Slade, Llywodraeth Cymru Sheena Hague, Llywodraeth Cymru Simon Jones, Llywodraeth Cymru |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton – Archwilydd Cyffredinol Cymru Matthew Mortlock |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Elin Sutton (Dirprwy Glerc) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r Pwyllgor.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mohammad Asghar AC a dirprwyodd Darren Millar AC ar ei ran. Cafwyd ymddiheuriadau hefyd gan Rhianon Passmore AC, Adam Price AC a Jenny Rathbone AC.
1.3 Nododd y Cadeirydd nad yw Neil Hamilton AC bellach yn aelod o’r Pwyllgor a diolchodd iddo am ei gyfraniad i waith y Pwyllgor.
2.1 Nodwyd y papurau.
3.1 Cafodd yr aelodau dystiolaeth gan Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, gan Simon Jones, Cyfarwyddwr, Seilwaith Economaidd, a chan Sheena Hague, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheoli’r Rhwydwaith, Llywodraeth Cymru fel rhan o’r ymchwiliad i FyNgherdyn Teithio, sef cynllun tocynnau bws rhatach i bobl ifanc Llywodraeth Cymru.
3.2 Cytunodd Andrew Slade i anfon rhagor o wybodaeth ynglŷn â nifer o gamau gweithredu.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Bu’r Aelodau yn trafod y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunwyd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru gyda’u canfyddiadau.